Lleoliad y cyfarfod:
Zoom
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
5 Awst 2020
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/6404
------
Datganiad gan y Llywydd
Dechreuodd yr eitem am 13.29
Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i gyfarfod adalw’r Senedd o dan Reol Sefydlog 34.9 a nododd y bydd y Cyfarfod Llawn hwn, sy’n cael ei gynnal drwy gynhadledd fideo yn unol â Rheolau Sefydlog y Senedd, yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006.
Datganodd y Llywydd, wedi ymgynghori gyda’r Pwyllgor Busnes, y bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwy - mae'r rhain wedi eu nodi ar yr agenda.
Hefyd, cafodd yr Aelodau eu hatgoffa gan y Llywydd yr Aelodau bod Rheolau Sefydlog yn ymwneud â threfn yn y Cyfarfod Llawn yn gymwys i'r cyfarfod hwn.
Yn unol â Rheol Sefydlog 34.15, mae’r cyhoedd wedi eu gwahardd rhag bod yn bresennol yn y Cyfarfod Llawn hwn, fel sy'n ofynnol er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd, er y byddai’r cyfarfod yn parhau i gael ei ddarlledu'n fyw a byddai’r cofnod o'r trafodion yn cael ei gyhoeddi yn y ffordd arferol.
1 Datganiad gan y Prif Weinidog: Coronafeirws (COVID-19)
Dechreuodd yr eitem am 13.30
2 Aelodaeth Pwyllgorau
Dechreuodd yr eitem am 14.35
NDM7361 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol Angela Burns (Ceidwadwyr Cymreig) yn aelod o’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus.
NDM7362 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol Suzy Davies (Ceidwadwyr Cymreig) yn aelod o Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau.
NDM7363 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Andrew RT Davies (Ceidwadwyr Cymreig) yn aelod o’r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon yn lle Angela Burns (Ceidwadwyr Cymreig).
NDM7364 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Janet Finch-Saunders (Ceidwadwyr Cymreig) yn aelod o’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig yn lle Andrew RT Davies (Ceidwadwyr Cymreig).
NDM7365 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol David Melding (Ceidwadwyr Cymreig) yn aelod o’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yn lle Suzy Davies (Ceidwadwyr Cymreig).
NDM7366 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Laura Anne Jones (Ceidwadwyr Cymreig) yn aelod o’r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol yn lle David Melding (Ceidwadwyr Cymreig).
NDM7367 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Laura Anne Jones (Ceidwadwyr Cymreig) yn aelod o’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn lle Janet Finch-Saunders (Ceidwadwyr Cymreig).
Derbyniwyd y cynigion yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
3 Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020
Dechreuodd yr eitem am 14.36
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM7358 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Gorffennaf 2020.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
41 |
0 |
4 |
45 |
Derbyniwyd y cynnig.
4 Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) 2020
Dechreuodd yr eitem am 14.36
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM7359 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Gorffennaf 2020.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
43 |
0 |
2 |
45 |
Derbyniwyd y cynnig.
5 Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020
Dechreuodd yr eitem am 14.36
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM7360 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Gorffennaf 2020.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
43 |
0 |
2 |
45 |
Derbyniwyd y cynnig.
6 Cyfnod pleidleisio
Yn unol â Rheol Sefydlog 34.14D, am 15.02, cafodd y trafodion eu hatal dros dro er mwyn caniatáu egwyl technegol cyn y cyfnod pleidleisio.
Dechreuodd yr eitem am 15.15
Daeth y cyfarfod i ben am 15.18
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mercher, 26 Awst 2020